Benjamion Netanyahu - protestwyr yn galw arno i wneud rhywbeth ynglyn ag amodau byw
Mae degau o filoedd o Israeliaid wedi bod yn protestio ar strydoedd ym mhob rhan o’r wlad er mwyn tynnu sylw at y cynnydd mawr ym mhrisiau tai. Maen nhw’n mynnu bod llywodraeth Israel yn gwneud rhywbeth ynglyn â’r sefyllfa.

Mae’r protestiadau ynglyn â phrisiau tai yn cysylltu hefyd gydag annifyrrwch ehangach ymysg Israeliaid ynglyn â chostau byw a’r bwlch mawr rhwng y tlawd a’r cyfoethog.

Mae protestiadau eraill yn cynnwys streiciau gan ddoctoriaid sy’n dadlau am well amodau gwaith a thâl; mae rhieni’n protestio yn erbyn costau magu plant; ac mae protestiadau cyffredinol ynglyn â phrisiau petrol.

Fe fu degau o filoedd ar strydoedd Jerwsalem, Tel Avib a dinasoedd mawr eraill yn siantio: “Mae’r bobol yn mynnu cyfiawnder cymdeithasol”.

Roedd y protestwyr yn chwifio baneri Israel a phlacardiau yn dweud “Tair swydd, ond yn methu dod â dau ben llinyn ynghyd” a “Lladd ein hunain i fyw”.

Roedd yr heddlu wedi cau’r prif strydoedd er mwyn caniatau’r protestwyr i orymdeithio.