Hosni Mubarak
Fe fydd achos llys cyn-Arlywydd yr Aifft yn cael ei gynnal mewn academi’r heddlu ar gyrion Cairo, yn hytrach nag mewn canolfan yng nghanol y ddinas.

Mae’n ymddangos mai ofnau ynglyn â diogelwch sy’n gyfrifol am y penderfyniad. Fe fydd yr achos yn ymdrin â honiadau fod Hosni Mubarak wedi gorchymyn i fyddin y wlad ladd protestwyr yn ystod gwrthdystiadau ym mis Chwefror eleni.

Bydd y cyn-Arlywydd 83 mlwydd oed yn sefyll ei brawf ochr yn ochr â’i bennaeth diogelwch a chwech o swyddogion eraill sy’n wynebu’r un cyhuddiadau.

Mae dau fab Mubarak hefyd yn wynebu cyhuddiadau o lygredd.

Mae cadw trefn yn ystod y gwrandawiad yn cael ei ystyried yn fater pwysicach na’r un arall.