Oriel Mostyn, Llandudno
Oriel gelf gyfoes yn Llandudno sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam a’r Fro 2011.
Wrth ddyfarnu’r anrhydedd, disgrifiwyd Oriel Mostyn gan y detholwyr Mhairi McVicar a Simon Venables “yn dirnod dinesig o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru”.
Cyflogwyd Penseiri Ellis Williams o Warrington i ychwanegu dwy oriel newydd at y rhai presennol yn yr adeilad rhestredig Gradd II.
Gan ddilyn y brîff y dylai’r ychwanegiadau newydd feddu ar “symlrwydd, cynildeb a soffistigeiddrwydd – yn ogystal ag un neu ddau syrpreis,” gwelodd y detholwyr y rhinweddau hyn dro ar ôl tro yn yr oriel ar ei newydd wedd.
“Gwnaed argraff arnom gan y ffordd yr oedd golau naturiol wedi ei dynnu i mewn i’r adeilad, a sut yr oedd y gofodau oriel yn cysylltu â’i gilydd yn ddi-dor, “ meddai Mhairi McVicar a Simon Venables, “gan nid dim ond darparu’r amgylchedd delfrydol ar gyfer arddangosiadau, ond mae’n amlwg yn ofod dyrchafol y gellir ei fwynhau’n fawr gan ymwelwyr.”
“Dewiswyd Oriel Mostyn fel enillydd teilwng Y Fedal Aur am Bensaernïaeth am ei hymateb bensaernïol hynod uchelgeisiol a hardd, a hefyd am y cynildeb a ddangoswyd mewn gweithio gydag adeilad rhestredig, a haelioni’r ymateb trefol.”
Rhoddir Y Fedal Aur am Bensaernïaeth, dan nawdd Comisiwn Dylunio Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy’n cyrraedd y safonau dylunio uchaf.
Yn ogystal, penderfynodd y detholwyr roi Cymeradwyaeth Uchel i adeilad newydd WISE yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, a gafodd ei gynnwys ar y rhestr fer.
“Mae adeilad WISE, a gynlluniwyd gan Pat Borer a David Lea, yn cynrychioli degawdau o ddatblygu pwrpasol mewn arfer cynaliadwy, a theimlem y dylai’r prosiect hwn gael ei gydnabod am ei ansawdd anghyffredin o uchel,” meddent.
“Mae’r dewis gofalus o ddeunyddiau a dulliau adeiladu gydag ynni ymgorfforedig isel, wedi creu adeilad i’w efelychu.”