Mae pedwar o bobol wedi eu lladd, wedi i ddwy awyren fechan fod mewn gwrthdrawiad uwchben Alasga.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Talaith Alasga fod pedwar corff wedi eu canfod yn chwalfa’r ddamwain ddigwyddodd ddydd Sadwrn.

Fe lwyddodd un o’r awyrennau i lanio’n ddiogel wedi’r ddamwain ddigwyddodd ger Trapper Creek, tra bod yr awyren arall wedi syrthio i’r ddaear mewn fflamau.