Irac - peryclach na blwyddyn yn ôl?
Mae bomio rheolaidd, lladd a thrais gan grwpiau terfysgol yn gwneud Irac yn beryclach heddiw nac oedd y wlad flwyddyn yn ôl, meddai adroddiad gan gorff arolygu yn America.

Fe ddaeth yr adroddiad wedi i swyddog Americanaidd arall alw’r misoedd hyn yn “haf o ansicrwydd” yn y brifddinas, Baghdad – dydi hi ddim yn glir p’un ai fydd lluoedd America yn aros yn Irac ar ôl diwedd eleni.

“Mae Irac yn parhau yn lle peryglus iawn iawn I weithio ynddo,” meddai’r adroddiad 172-tudalen a gyflwynwyd I’r Gynghres ac i’r Arlywydd, Barack Obama. “Mae’n llai diogel, yn ein barn ni, nag oedd o 12 mis yn ôl.”

Mae’r adroddiad yn nodi marwolaethau 15 o filwyr America ym mis Mehefin, y mis mwya’ gwaedlyd i fyddin yr Unol Daleithiau yn Irac ers dwy flynedd cyn hynny.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi cynnydd yn nifer y rocedi sy’n cael eu tanio yn yr Ardal Werdd yn ninas Baghdad, lle mae swyddfeydd y llywodraeth a’r llysgenhadon tramor. Mae yna hefyd ymgais gyson i ladd arweinwyr gwleidyddol Irac, lluoedd diogelwch a barnwyr.