Kandahar
Mae maer Kandahar wedi cael ei ladd gan hunan fomiwr, llai na phythefnos wedi i hanner-brawd yr arlywydd Hamid Karzai gael ei saethu yn yr un ardal.

Bu farw’r Maer Ghulam Haider Hamidi wedi i’r hunan-fomiwr ffrwydro bom yn ei swyddfa yn Kandahar y bore ’ma.

Cadarnhaodd dirprwy bennaeth yr heddlu yn nhalaith Kandahar, Sher Shah Yousafzai, ei fod wedi marw.

Roedd y maer ymysg y ffefrynnau i gymryd yr awenau pan gafodd hanner-brawd dylanwadol yr arlywydd Hamid Karzai ei saethu’n farw ar 12 Gorffennaf.

Ers marwolaeth Ahmed Wali Karzai mae brwydr waedlyd am rym wedi mynd rhagddo yn Kandahar.

Mae’r trais wedi codi cwestiynau ynglŷn â sefydlogrwydd mewn talaith sy’n allweddol yn ymgyrch yr Unol Daleithiau yn y wlad.