Catherine a Ben Mullany
Bydd barnwr achos llys dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio pâr priod o Gymru yn cau pen y mwdwl heddiw cyn i’r rheithor ddechrau ystyried y ddedfryd.

Mae tair blynedd yn union i’r dydd y cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu yn ystod lladrad toriad gwawr mewn gwesty moethus ar ynys Antigua.

Cafodd y cwpwl, y ddau yn 31 oed ac yn dod o Abertawe, eu claddu ar dir yr un Eglwys lle’r oedden nhw wedi priodi llai na pum wythnos ynghynt.

Mae dau ddyn lleol, Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 20, yn gwadu llofruddio’r cwpwl, ac yn gwadu cyhuddiad arall o saethu siopwraig leol.

Mae’r achos bellach yn ei hwythfed wythnos, ac mae dros 90 o dystion wedi eu galw.

Mae rhieni Ben Mullany, Cynlais a Marilyn, wedi bod ar yr ynys drwy gydol yr achos, a’r wythnos ddiwethaf, daeth rhieni Catherine Mullany, David a Rachel Bowen, allan i ymuno â nhw.

Dechreuodd y barnwr, yr Ustus Richard Floyd, roi ei gasgliadau ar yr achos ddoe, gan atgoffa’r rheithgor y dylen nhw benderfynu ar sail “y dystiolaeth yn unig.”

Siaradodd am chwe awr, gan ddweud y gallai Kaniel Martin ac Avie Howell gael eu dedfrydu ar sail “menter ar y cyd” – hyd yn oed os nad oedd un wedi chwarae gymaint o ran a’r llall.

Ond dywedodd Richard Floyd na ddylai’r rheithgor ddyfalu ynglŷn â thystiolaeth nad oedd o’u blaen – na seilio eu penderfyniad ar “bwysau cyhoeddus, rhagfarn, cydymdeimlad nac ofn”.

Y cefndir

Cafodd y myfyriwr ffisiotherapi, Ben Mullany, a’i wraig Catherine, oedd yn ddoctor yn Ysbyty Treforys, eu saethu yn oriau mân y bore ar 27 Gorffennaf 2008.

Roedd y pâr priod wedi bod yn Antigua ar bythefnos o fis mêl wedi eu priodas yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr yng Nghilybebyll ar 12 Gorffennaf.

Bu farw Catherine Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yn ei phen. Bu farw ei gŵr deuddydd yn ddiweddarach, ar ôl iddo gael ei hedfan yn ôl i Gymru ar beiriant cynnal bywyd.

Dros flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Awst 2009, cyhuddwyd Kaniel Martin ac Avie Howell o lofruddio Ben a Catherine Mullany, cyn wynebu cyhuddiad arall o ladd y perchennog siop 43 oed, Woneta Anderson.

Mae erlynyddion yn dweud bod cysylltiad amlwg rhwng y llofruddiaethau hyn i gyd – bod pob un wedi marw yn sgil ymosodiad yn oriau mân y bore, ar ôl derbyn un fwled i’r pen, ac mai’r amcan oedd lladrata.

Ond, mae’r amddiffyn yn dweud bod tystiolaeth y Goron yn “annigonol” ac yn “amodol.” Maen nhw’n mynnu nad oes dim tystiolaeth fforensig i gysylltu naill ai Avie Howell na Kaniel Martin â marwolaethau Ben a Catherine Mullany.

Mae disgwyl y bydd y Barnwr yn parhau i gyflwyno’i gasgliadau am 9am amser lleol (2pm amser Cymru).