Mae heddlu Ffrainc wedi chwilio cartref tad y dyn sydd wedi cyfaddef iddo ladd 93 o bobol yn Norwy drwy osod bomiau a saethu.

Amgylchynodd tua dwsin o heddlu’r cartref yn Cournanel yn ne Ffrainc heddiw. Mae’r adeilad wedi ei gau i’r cyhoedd.

Cadarnhaodd yr heddlu fod mai tŷ tad Anders Behring Breivik oedd hi ond nad oedden nhw’n fodlon cynnig sylw pellach.

Yn ôl adroddiadau dyw Jens Breivik heb gysylltu â’i fab ers sawl blwyddyn.

Mae Anders Breivik, 32, wedi cyfaddef mai ef oedd y tu ôl i’r bomio ynghanol Oslo a’r saethu mewn gwersyll ieuenctid ar gyrion o brifddinas.

Ond mae disgwyl iddo bleidio’n ddieuog wrth ymddangos o flaen llys heddiw.