Mae’r gwasanaethau brys wedi diffodd tân oedd yn llosgi ar do melin bapur dros nos.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wybod am y tân ar felin bapur pentref Oakenholt, Sir y Fflint, toc cyn 9pm ddydd Sul.
Brwydrodd saith criw y fflamau oedd ar do yr adeilad, a llwyddwyd i ddiffodd y tân am 4.30am bore ma.
Sefydlwyd y melin bapur yn y pentref yn 1870.