Kirsty Jones
Mae Heddlu Dyfed-powys wedi gofyn i heddlu Wlad Thai ymchwilio i dystiolaeth newydd yn achos Cymraes gafodd ei lladd y wlad 11 mlynedd yn ôl.
Cafodd Kirsty Jones, 23 oed, o Dredomen, ger Aberhonddu, ei threisio a’i thagu mewn gwesty ar 10 Awst, 2000.
Daethpwyd o hyd i gorff y ferch mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai, sydd i’r gogledd o Bangkok.
Roedd Kirsty Jones ar drydydd mis taith dwy flynedd o amgylch y byd, ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl. Dechreuodd y daith yn Singapore a Malaysia ym mis Mai 2000 cyn symud ymlaen i Wlad Thai.
Roedd hi wedi bwriadu cwrdd â chyfeillion yn ddiweddarach ond ar ei phen ei hun pan arhosodd yn y gwesty aflêr.
YouTube
Dyw ei llofruddiaeth heb ei ddatrys ond mae fideo wedi ei gyhoeddi ar y we sy’n enwi dyn gafodd ei weld ger y gwesty.
Mae’r fideo gan ddyn o Awstralia oedd yn arfer byw yng Ngwlad Thai wedi ymddangos ar wefan YouTube.
Yn y fideo mae’n honni fod y dyn, sy’n athro mewn prifysgol, a dyn Thai arall wedi eu gweld y tu allan i Westy Aree yn Chiang Mai.
Mae’r dyn arall, sy’n heddwas, eisoes wedi cael prawf DNA ac nid yw’n cael ei ddrwgdybio.
Cafodd perchennog Prydeinig y gwesty, Andrew Gill, ei arestio ar ôl marwolaeth Kirsty Jones.
Daeth i’r amlwg nad oedd y dyn 33 oed wedi ffonio’r heddlu yn syth ar ôl dod o hyd i’r corff am nad oedd ganddo visa cyfredol.
Rhyddhawyd ef ar ôl i’r awdurdodau benderfynu nad oedd digon o dystiolaeth i’w erlyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n ymwybodol o’r fideo ac wedi galw ar awdurdodau Gwlad Thai i ymchwilio “yn drylwyr”.
“Mae’r wybodaeth wedi ei anfon ymlaen at awdurdodau Gwlad Thai sy’n arwain yr ymchwilid,” meddai.