Barack Obama
Mae yna bryder y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn methdalu wrth i Ddemocratiaid a Gweriniaethwyr fethu a chytuno ar gynllun i osgoi argyfwng ariannol arall.

Mae’r Arlywydd Barack Obama eisiau codi’r cyfyngiad ar ddyled y wlad cyn 2 Awst.

Syrthiodd marchnadoedd stoc Asia’r bore ma ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd gwleidyddion Washington wedi llwyddo i ddod i gytundeb dros y penwythnos.

Mae’r Gweriniaethwyr yn anhapus fod cynlluniau Barack Obama i dorri’r diffyg ariannol yn cynnwys codi trethi – maen nhw am weld toriadau gwario yn unig.

Roedd arweinwyr gwleidyddol wedi gobeithio dod i gytundeb ddoe, cyn i’r marchnadoedd stoc agor yn yr Unol Daleithiau bore ddydd Llun.

AAA

Mae asiantaethau credyd-raddio wedi bygwth gostwng graddiad AAA’r Unol Daleithiau os yw’r wlad yn methu a thalu ei dyledion am y tro cyntaf yn ei hanes.

Fe fyddai hynny yn ei gwneud hi’n fwy costus i’r llywodraeth fenthyg arian yn y dyfodol.

Os yw’n methdalu ni fydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gallu talu pob un o’i filiau fis nesaf – gan gynnwys nawdd cymdeithasol i bensiynwyr a chyflogau gweithwyr.

Mae economegwyr yn credu y gallai methdalu wthio economi’r Unol Daleithiau yn ôl i mewn i ddirwasgiad, ac achosi argyfwng economaidd arall yn fyd-eang.

Daw’r gwrthwynebiad mwyaf i gynyddu’r cyfyngiad ar ddyled y wlad o Dŷ’r Cynrychiolwyr ble mae’r Gweriniaethwyr yn rheoli.

Mae’r Tŷ yn cynnwys sawl aelod newydd gafodd eu hethol ym mis Tachwedd â chefnogaeth mudiad y Tea Party sy’n credu mewn llywodraeth fach a threthi isel.