Anders Breivik
Mae heddlu Norwy yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng y dyn sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am ymosodiadau terfysgol y wlad a’r adain-dde eithafol ym Mhrydain.

Mae Anders Breivik yn honni ei fod wedi ei recriwtio gan ddau ddyn adain-dde eithafol o Loegr mewn cyfarfod yn Llundain yn 2002.

Fe fydd y dyn 32 oed yn ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o derfysgaeth yn dilyn ffrwydrad yng nghanol Oslo ac ymosodiad ar wersyll pobol ifanc ar ynys Utoya.

Fe fu o leiaf 93 o bobol farw yn ystod yr ymosodiadau ddydd Gwener, ond mae disgwyl y bydd Anders Breivik yn pledio’n ddi-euog heddiw.

Dywedodd cyfreithiwr Anders Breivik, Geir Lippestad, fod ei gleient wedi gobeithio chwyldroi cymdeithas Norwy.

Roedd wedi cyfaddef ei fod yn gyfrifol am yr erchyllterau ond yn gwadu cyfrifoldeb troseddol, meddai.

Eithafol

Daeth i’r amlwg yn dilyn yr ymosodiadau fod Anders Breivik wedi cyhoeddi “maniffesto” ar-lein sy’n galw ar bobol Ewrop i wrthwynebu mewnfudo gan Fwslemiaid.

Mae’n enwi athro o Brydain o’r enw Richard yn y ddogfen 1,500 tudalen sy’n cyhuddo rhai Ewropeaid o “droi cefn ar eu treftadaeth”.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Norwy eu bod nhw’n “dilyn pob trywydd ac yn ymchwilio i bopeth y mae’n bosib ei fod yn rhan ohono”.

Roedd adroddiadau fod gan Anders Breivik gysylltiadau â’r English Defence League, ond maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n “chwyrn” yn erbyn ei ymosodiadau.

“Dyw terfysgaeth neu eithafiaeth o unrhyw fath ddim yn dderbyniol ac rydyn ni’n cymryd balchder wrth eu gwrthwynebu,” meddai neges ar wefan y grŵp.

“Rydyn ni’n gwrthod unrhyw awgrym ein bod ni’n eithafol neu’n grŵp adain-dde eithafol. Yn y gorffennol rydyn ni wedi mynd i’r afael â unrhyw un sy’n arddel barn o’r fath.”