Mae gwrthryfelwyr Mwslimaidd yn Somalia wedi rhybuddio gweithwyr cymorth i gadw draw o’r wlad er gwaethaf y newyn mawr yno.
Mae’r bygythiad gan grŵp terfysgol al-Shabab, sydd â chysylltiadau â Al Qaida, yn golygu mai dim ond llond llaw o asiantaethau fydd yn ymateb i’r newyn yn ne Somalia.
Dywedodd elusennau eu bod nhw’n rhwystredig nad oedden nhw’n gallu mynd i’r wlad i roi cymorth am nad oedd yn ddigon saff.
Mae Rhaglen Fwyd y Cenhedloedd Unedig ymysg y rheini sydd wedi eu gwahardd gan al-Shabab.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud y gallai 800,000 o blant farw o newyn yn y wlad os nad oes rywbeth yn cael ei wneud i’w helpu nhw.
Maen nhw’n pryderu fod degau o filoedd o bobol eisoes wedi marw o ganlyniad i’r newyn.
‘Rhaid gweithredu yn syth’
Dywedodd Unicef, un o’r ychydig grwpiau sy’n gweithio mewn ardaloedd sydd wedi eu rheoli gan al-Shabab, eu bod nhw’n paratoi i ddosbarthu bwyd i’r wlad.
“Os ydyn ni’n gobeithio achub bywydau, mae’n rhaid gweithredu nawr, a dod a llawer iawn o feddyginiaeth, brechlynnau a bwyd i’r ardal cyn gynted a bo modd,” meddai Shanelle Hall o Unicef.
Yn ôl Rhaglen Fwyd y Cenhedloedd Unedig, Somalia yw’r wlad beryclaf yn y byd i fyw ynddo. Maen nhw wedi colli 14 o’u gweithwyr yno dros y blynyddoedd diwethaf.
Penderfynon nhw adael y wlad ar ôl i wrthryfelwyr alw am daliadau ariannol am beidio ag ymosod ar weithwyr.
Dechreuodd al-Shabab wahardd asiantaethau ac elusennau yn 2009, gan bryderu ei bod nhw’n ysbio arnyn nhw ac yn hybu ffordd o fyw wrth-fwslemaidd.