Mae un o gyn-newyddiadurwyr y Daily Mirror wedi honni bod papurau newydd heblaw’r News of the World wedi bod yn hacio ffonau symudol.
Roedd James Hipwell yn newyddiadurwr cyllidol ar bapur newydd y Daily Mirror pan oedd Piers Morgan yn olygydd.
Dywedodd fod hacio ffonau symudol “yn hen dric” a chynigiodd roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i hacio ffonau symudol sydd wedi ei orchymyn gan David Cameron.
Honnodd fod hacio ffonau symudol wedi digwydd ar fwy nag un o bapurau newydd cwmni Trinity Mirror.
Mae’r cwmni yn berchen ar sawl papur newydd yng Nghymru, gan gynnwys y Western Mail a’r Daily Post.
Dywedodd y cwmni nad oedd “unrhyw dystiolaeth” i gefnogi honiadau James Hipwell.
“Mae barn Trinity Mirror ar y mater yn glir. Mae ein newyddiadurwyr ni yn gweithio o fewn y gyfraith droseddol a chod ymddygiad Comisiwn Cwynion y Wasg.”
Llond bol ar y ‘celwydd’
Cafodd James Hipwell ei garcharu am chwe mis ym mis Chwefror 2006 am brynu stociau rhad, annog darllenwyr ei golofn yn y Mirror i’w prynu, ac yna eu gwerthu.
“Roeddech chi’n gwybod beth oedd pobol o’ch cwmpas chi yn ei wneud,” meddai wrth bapur newydd yr Independent.
“Roedd yn heb dric oedd ychydig bach yn dan din ond yn rhywbeth yr oedd nifer ohonyn nhw’n ei wneud.
“Ar ôl hacio’r ffon roedden nhw’n dileu’r neges fel nad oedd papur newydd arall yn gallu cael y stori. Doniol iawn.”
Dywedodd James Hipwell ei fod wedi penderfynu rhoi ei farn ar ôl cael llond bol ar yr holl “gelwydd”.