Andrew RT Davies
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi wedi lansio ymchwiliad i ba mor llwyddiannus yw prosiectau i adfywio canol trefi.

Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn cynnal yr ymchwiliad.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ba effaith y mae canolfannau manwerthu ar gyrion trefi yn eu cael ar ganol trefi cyfagos.

Andrew RT Davies, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, fydd yn cadeirio’r pwyllgor.

“Bydd hwn yn ymchwiliad pwysig a fydd yn edrych ar ystod o faterion sy’n gysylltiedig ag adfywio canol trefi,” meddai.

“Mae nifer o ardaloedd ledled Cymru wedi elwa ar y math hwn o adfywio, ac rydym am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r prosiectau hyn mewn ffordd sydd mor llwyddiannus â phosibl.

“Fel Pwyllgor, rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y maes, neu diddordeb ynddo, i gyflwyno tystiolaeth i’n helpu gyda’r gwaith o graffu ar y mater ac i lywio ein hymchwiliad.”


Mae’r pwyllgor wedi galw am dystiolaeth gan y rheini sydd â diddordeb yn y pwnc.

“Hoffai’r Pwyllgor wybod a yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael iddi i gynorthwyo â phrosiectau adfywio, a sut mae’n cydgysylltu buddiannau cymunedau, busnesau ac awdurdodau lleol,” meddai llefarydd.

“Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd yn y dulliau a ddefnyddiwyd i gyllido a chyflawni prosiectau i adfywio canol trefi yng Nghymru ac mewn canfod a oes gwersi i’w dysgu o brosiectau adfywio eraill.”