Barack Obama
Mae yna bryder mawr y bydd yr Unol Daleithiau yn methdalu ar ôl i drafodaethau rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwr i geisio torri’r diffyg ariannol chwalu.

Daeth trafodaethau rhwng llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, John Boehner, a’r Arlywydd Barack Obama i ben yn ddisymwth ar drothwy cytundeb.

O fewn munudau i gyhoeddiad John Boehner fod y drafodaeth wedi mynd i hael hosan, gorchmynnodd Barack Obama yr arweinwyr cyngresol i’r Tŷ Gwyn er mwyn cynnal trafodaethau pellach.

“Mae’n rhaid i ni wneud hyn. Does dim dewis,” meddai Barack Obama.

Os nad yw’r Gyngres yn codi cyfyngiad dyled $14.3 triliwn y wlad cyn y terfyn amser ar 2 Awst, ni fydd Trysorlys yr Unol Daleithiau yn gallu talu ei filiau.

Byddai methdalu yn ergyd arall i economi’r wlad, sydd eisiau yn wan, ac fe allai achosi ail ddirwasgiad yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt.

“Gadewch i fi fod yn gwbl glir, does neb eisiau methdalu yn yr Unol Daleithiau ac rydw i’n hyderus y bydd modd osgoi hynny,” meddai.

“Ond mae’n rhaid i’r Gweriniaethwr ofyn a ydyn nhw’n gallu cytuno ar unrhyw beth erbyn hyn.”

Dywedodd ei fod wedi cefnu ar y trafodaethau oherwydd bod yr arlywydd yn benderfynol o godi trethi yn ogystal â thorri costau.

Mae’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn benderfynol o gael eu ffordd, 18 mis cyn y ras am y Tŷ Gwyn ym mis Tachwedd 2012.