Map yn dangos rhanbarth Los Rios
Mae alcohol wedi cael ei wahardd o ardal yn Ecuador ar ôl i 21 o bobol farw oherwydd diod anghyfreithlon.

Mae mwy na 100 o bobol eraill wedi gorfod cael triniaeth ysbyty ar ôl yfed y ddiod yn Urdaneta, tref o tua 25,000 o bobol yn rhanbarth Los Rios.

Mae’n ymddangos bod y ddiod yn cynnwys alcohol methyl wedi ei ddefnyddio i wneud diod anghyfreithlon a fod hynny wedi gwenwyno’r bobol.

Fe gadarnhaodd Llywodraeth Ecuador, yng ngogledd-orllewin De America, bod gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol yn yr ardal ers dydd Sadwrn.