Cyrnol Gaddafi
Yn Libya, mae’r Cyrnol Gaddafi wedi bod yn ceisio crynhoi cefnogaeth wrth i luoedd NATO barhau i ymosod ac wrth i fwy o wledydd gydnabod y gwrthryfelwyr yn nwyrain y wlad.

Am y trydydd diwrnod yn olynol, roedd protest o’i blaid yn un o brif drefi Libya, gyda miloedd o bobol yn dathlu ar y strydoedd.

Yn ôl datganiad gan yr Arlywydd, roedd hynny’n brawf mai dim ond ychydig o bobol oedd yn cefnogi’r gwrthryfelwyr mewn trefi fel Benghazi.

Ond mae’n bosib y bydd y rheiny’n cael rhagor o gefnogaeth ariannol wrth i fwy na 30 o wledydd eu cydnabod yn swyddogol mewn cyfarfod yn Istanbul ddydd Gwener.

Mae’r gwrthryfelwyr hefyd yn dweud eu bod wedi cipio rhannau o ddinas Brega a’u bod yn parhau i ymladd am y gweddill.

Morocco a’r Aifft – y diweddara’

Yn y cyfamser, mae yna brotestiadau ym Morocco hefyd – y tro yma yn erbyn cyfansoddiad newydd sydd wedi ei gynnig gan y Brenin. Mae’r protestwyr yn galw am fwy o ddemocratiaeth.

Yn yr Aifft, mae hanner aelodau’r Cabinet yn cael eu newid ar ôl cwynion eu bod yn rhy agos at y cyn arlywydd, Mubarak.