Muammar Gaddafi - mae'n dal i daro'n ôl yn erbyn gwrthryfelwyr
Mae deg o wrthryfelwyr sydd wedi bod yn ymladd i drio cael gwared â’r unben, Muammar Gaddafi, wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiad ar un o drefi olew Libya.

Yn ôl adroddiadau, fe ddaeth rebeliaid i mewn i dre’ Brega nos Iau, ond fe laddwyd deg ohonyn nhw gan ymosodiadau llywodraeth Gaddafi neithiwr. Fe gafodd deg eu lladd gan daflegrau, ac o’r ochr arall, fe ddaliwyd pedwar o filwyr y llywodraeth gan y gwrthryfelwyr.

Yn ystod y dydd ddoe (dydd Gwener), roedd y gwrthryfelwyr yn credu bod eu hachos nhw wedi derbyn sel bendith yr Unol Daleithiau, wrth i’r wlad honno gydnabod Cyngor Cenedlaethol dros-dro Libya, sy’n trio cael gwared ar yr Arlywydd Gaddafi.

Ond mae’r rhyfel cartre’ bellach wedi cyrraedd pwynt lle nad oes yr un o’r ddwy ochr yn ‘ennill’, mewn gwirionedd. Mae’r gwrthryfelwyr yn methu ennill tir ar y naill law, ac mae lluoedd NATO yn bomio milwyr Gaddafi ar y llall, gan ddweud mai amddiffyn pobol ddiniwed y maen nhw.