Mae Gweinidog iechyd India wedi pechu ymgyrchwyr ar ôl disgrifio gwrywgydiaeth fel “afiechyd” a dweud ei fod yn “gwbl annaturiol” yn ystod cynhadledd HIV/ Aids.
Dywedodd Ghulam Nabi Azad wrth y gynhadledd ei bod yn anffodus fod gwrywgydiaeth wedi dod i India.
Roedd yn adleisio barn sy’n eithaf cyffredin yn y wlad geidwadol, sef mai rhywbeth sydd wedi dod o wledydd y gorllewin yw rhyw ymhlith pobl hoyw.
Roedd rhyw hoyw yn anghyfreithlon yn India tan 2009 pan benderfynodd Uchel Lys Delhi ddiddymu cyfraith yn ei erbyn.
Cyn hynny roedd pobol hoyw yn wynebu hyd at 10 mlynedd yn y carchar am gael cyfathrach rywiol â’i gilydd.
Mae tua 2.5 miliwn o bobl India yn dioddef o HIV. Dyma’r wlad gyda’r nifer fwyaf o bobl yn byw â’r afiechyd yn Asia.
Mae arbenigwyr yn dweud fod gwthio pobl hoyw India i’r cyrion yn amharu ar y frwydr yn erbyn HIV / Aids.