Dinistr tsunami Japan
Mae’r gweinidog a fu’n gyfrifol am arwain y gwaith o ail-adeiladu yn dilyn daeargryn a tsunami Japan wedi ymddiswyddo ar ôl ei ymweliad cyntaf â’r ardal sydd wedi ei heffeithio.

Ar ôl teithio i ogledd-ddwyrain Japan, rhoddodd Ryu Matsumoto stŵr i swyddog, bygwth atal nawdd a gwrthod ysgwyd llaw ag un o’r llywodraethwyr.

Bu’n rhaid iddo ymddiswyddo ar ôl cythruddo pobol yr ardal â’i agwedd “drahaus a di-hid”.

Dywedodd wrth lywodraethwr Iwate, un o’r taleithiau sydd wedi dioddef fwyaf, na fyddai’r llywodraeth yn eu helpu os nad oedd ganddyn nhw well syniad am sut i ail-adeiladu.

Gwrthododd ysgwyd llaw â llywodraethwr talaith Miyagi ar ôl i hwnnw gyrraedd y cyfarfod yn hwyr.

‘Ar ochr y dioddefwyr’

Cafodd Ryu Matsumoto ei benodi i’r swydd gan y Prif Weinidog Naoto Kan fis diwethaf.

Wrth ymddiswyddo dywedodd Ryu Matsumoto ei fod yn “teimlo fy mod i ar ochor y dioddefwyr” ond ei fod yn “ymddiheuro os oeddwn i wedi brifo teimladau ac os oedd fy ngeiriau yn rhy llym”.

Mae’r Prif Weinidog, Naoto Kan, hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddiswyddo ar ddiwedd tymor y Senedd.