Hugo Chavez
Fe drodd gorymdaith gan filoedd o bobol Venezuela i ddathlu 200 mlynedd y wlad droi’n rali o gefnogaeth i’r Arlywydd, Hugo Chavez,sy’n parhau yn Ciwba ar hyn o bryd  yn gwella o diwmor canser.

Roedd cefnogwyr yr arlywydd yn chwifio baneri, yn curo drymiau ac yn llafarganu “Hir oes Chavez!”. Roedden nhw hefyd yn dal arwyddion “Brysia wella”  ac “Mae Venezuela gyda chi”.

Mae neges cyfrif Twitter Hugo Chavez yn dweud ei fod yn gwneud ei “ymarferion dyddiol” ac yn croesawu cefnogaeth a chariad ei gefnogwyr yn y brifddinas Caracas.

“Dyma’r feddyginiaeth orau!” meddai.

Y cefndir

Roedd yr awyrgylch ar strydoedd y wlad yn llawn egni a dathlu wrth i filoedd godi eu dwylo – er bod pryder hefyd am ddyfodol y wlad.

“Dw i’n teimlo’n ddrwg iawn – ac yn wag tu mewn wrth feddwl beth allai ddigwydd yn y wlad,” meddai Carlos Rojas, cyfreithiwr sy’n un o gefnogwyr Chavez. “Rydw i’n gweddio drosto i wella’n fuan.”

Mae Chavez wedi gelyniaethu’r cyfoethogion a rhai o wledydd y Gorllewin wrth gyflwyno polisïau sosialaidd yn y wlad, gan gynnwys rhoi mwy o rym i garfanau ar yr ymylon.

Ond mae wedi cael ei feirniadu’n ddiweddar hefyd am geisio cadw gormod o rym iddo’i hun.