Kim Jong Il
Mae Gogledd Korea wedi bygwth “rhyfel sanctaidd” yn erbyn De Korea os ydyn nhw’n parhau i’w poenydio ag arwyddion pryfoclyd ar y ffin rhwng y ddwy wlad gwerylgar.
Mae’r gogledd wedi cyhuddo milwyr y de o godi arwyddion “gwenwynig” yn y gobaith o geisio eu “cyffroi nhw”.
“Dyw hyn ddim yn bell iawn o fod yn ddatganiad o ryfel!” meddai llefarydd ar ran llywodraeth Gogledd Korea ar asiantaeth newyddion swyddogol y wlad.
“Fe fyddwn ni’n ymateb i bryfocio’r gelyn â chosb lem – rhyfel sanctaidd dialgar!”
Daw’r bygythiad diwrnod ar ôl i bapur newydd Hankyoreh De Korea ddweud fod milwyr y wlad wedi codi arwyddion yn beirniadu Gogledd Korea sy’n weladwy dros y ffin.
“Beth am hyrddio gynnau a chleddyfau i mewn i frestiau milwyr Gogledd Korea!” meddai un o’r arwyddion.
Mae arwydd arall yn argymell “torri’r tri Kim yn ddarnau” – cyfeiriad at sylfaenydd Gogledd Korea, Kim Il Sung, ei fab Kim Jong Il, a’i ŵyr Kim Jong Un.
Cadarnhaodd Adran Amddiffyn De Korea’r adroddiadau gan ddweud mai’r nod oedd cryfhau eu milwyr yn feddyliol.