Derbyniodd dirprwy gyfarwyddwr y BBC tua £950,000 ar ôl colli ei swydd â’r gorfforaeth fis diwethaf, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Mark Byford ei ddiswyddo er mwyn torri costau o fewn y gorfforaeth, ar ôl ymuno â’r BBC yn 1979.

Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph fe fydd Mark Byford hefyd yn cael hawlio pensiwn o 2013 ymlaen ar ben y £950,000.

Cafodd Mark Byford o Castleford yng Ngorllewin Swydd Efrog ei benodi yn ddirprwy gyfarwyddwr ym mis Ionawr 2004.

O fewn tair wythnos ymddiswyddodd y cyfarwyddwr, Greg Dyke, ac fe benodwyd Mark Byford yn gyfarwyddwr dros dro am bum mis cyn penodiad Mark Thompson yn ei le.

Dywedodd y Daily Telegraph fod Sharon Baylay, pennaeth marchnata’r BBC, wedi cael £390,000 ar ôl ei diswyddiad hithau, eto er mwyn arbed arian.

“Bydd y ffigyrau yn cael eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y BBC ym mis Gorffennaf,” meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr wrth leihau nifer yr uwch reolwyr a’r gost o’u cyflogi nhw i gyd, ac rydyn ni yn mynd i’r cyfeiriad cywir wrth gyrraedd y nod o ran torri costau.”

Dywedodd Mark Thompson deufis yn ôl fod y BBC yn ei chael hi’n “anodd iawn” llenwi swyddi pwysig am nad oedden nhw’n talu digon.