Kate yn priodi
Mae bragdy wedi achub y blaen ar bawb arall ac enwi un o’u tafarndai ar ôl Kate Middleton.

Mae Bragdy McMullen wedi ail enwi tafarn ‘B Bar and Kitchen’ ger Castell Windsor yn Berkshire ar ôl ailwampiad sydd werth £300,000.

Enw’r dafarn o hyn ymlaen fydd The Duchess of Cambridge, y teitl a roddwyd i Kate Middleton ar ôl iddi briodi’r Tywysog William.

Bydd y dafarn 1,600 troedfedd sgwâr yn agor yr wythnos yma, cyn parti i ddathlu’r enw newydd ar 21 Gorffennaf.

Gobaith y perchnogion yw denu twristiaid fydd yn ymweld â Chastell Windsor, a bydd y dafarn yn cynnwys creiriau hanesyddol o’r 19eg Ganrif.

Dywedodd rheolwr bragdy McMullen, Virge Balthazard, ei fod eisiau creu “tafarn Brydeinig hen ffasiwn sy’n rhoi’r argraff fod hanes iddo”.