Senedd Nigeria
Mae dynion ar feiciau modur wedi lladd o leiaf 25 o bobl ar ôl taflu bomiau i mewn i erddi cwrw awyr agored yng ngogledd ddwyrain Nigeria, meddai’r heddlu.
Maen nhw’n drwgdybio sect Fwslimaidd eithafol sydd wedi cyflawni ymosodiadau tebyg o’r blaen.
Ffrwydrodd y bomiau yn ninas Naiduguri, cartref yr enwad crefyddol Boko Hara. Dydyn nhw ddim wedi hawlio cyfrifoldeb eto.
Ffrwydrodd y bomiau tua 5pm ddoe mewn sawl gardd gwrw yn Maiduguri, tua 540 milltir o brifddinas Nigeria, Abuja.
Mae cyfraith Shariah Fwslimaidd yn teyrnasu yno ond serch hynny mae nifer o erddi cwrw awyr agored yn ddinas.
Yn ôl Lawal Abdullahi, llefarydd ar ran yr Heddlu, ffrwydrodd bomiau mewn o leiaf tair gardd gwrw yn y dalaith.
Mae Nigeria sy’n gartref i 150 miliwn o bobol wedi ei rannu rhwng y Cristnogion yn y de a Mwslemiaid i’r Gogledd.