Muammar Gaddaf
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi croesawu cyhoeddi gwarant ryngwladol i arestio Muammar Gaddafi.
Dywedodd William Hague fod y warant sydd wedi ei gyhoeddi gan y Llys Troseddol Rhyngwladol yn brawf fod yr unben “wedi colli pob cyfreithlondeb”.
Ychwanegodd fod y warant yn rhybudd i gefnogwyr Muammar Gaddafi eu bod nhw’n wynebu cael eu herlyn os ydyn nhw’n cefnogi troseddau yn erbyn dinasyddion.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r Llys Troseddol Rhyngwladol gyhoeddi gwarant i arestio’r unben, ei fab Saif al Islam a’r pennaeth cudd-wybodaeth Abdullah al Senussi.
‘Dim trugaredd’
“Mae’r unigolion rhain wedi eu cyhuddo o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth ac fe ddylen nhw wynebu llys troseddol,” meddai William Hague.
“Mae’r gwarantau yn brawf pellach bod Gaddafi wedi colli pob cyfreithlondeb ac y dylai fynd yn syth.
“Mae ei luoedd arfog yn parhau i ymosod ar bobol Libya heb unrhyw drugaredd ac mae’n rhaid i hynny ddod i ben.
“Dylai’r bobol sy’n cefnogi Gaddafi ar bob lefel ystyried canlyniadau popeth y maen nhw’n ei wneud yn ofalus iawn.
“Bydd rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb llawn am eu gweithredoedd.”
‘Lladd cannoedd’
Cyhoeddodd y Llys Troseddol Rhyngwladol fod Gaddafi dan amheuaeth o drefnu lladd cannoedd o ddinasyddion yn ystod 12 diwrnod cyntaf y gwrthryfel yn Libya.
Ond fe allai’r penderfyniad i’w arestio ei wneud yn anoddach i’w ddarbwyllo i gamu o’r neilltu a dod a’r brwydro yn y wlad yng ngogledd Affrica i ben.