Mae pengwin ymerodrol sydd wedi nofio i draeth yn Seland Newydd wedi cael cynnig lifft adref.

Ond mae pryder am iechyd y pengwin sy’n wynebu llawdriniaeth ddydd Llun er mwyn tynnu tywod o’i system dreulio.

Os yw’n goroesi’r llawdriniaeth mae dyn busnes wedi addo mynd ag ef yn ôl i’w gynefin yn yr Antartig ym mis Chwefror.

Roedd penaethiaid bywyd gwyllt y wlad wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu “gadael i natur wneud ei waith” ar ôl i’r pengwin gyrraedd traeth Peka Peka ar yr ynysoedd gogleddol.

Ond penderfynwyd ddoe y byddai yn marw yn fuan os nad oedden nhw’n ymyrryd, felly cafodd ei gludo mewn twbyn o rew i Sw Wellington.

Dywedodd llefarydd ar ran y sw, Kate Baker, fod y pengwin wedi cael anaesthetig ddoe wrth i filfeddygon geisio clirio’r tywod o’i stumog.

Yn y cyfamser mae’r anifail ar ddiferiad mewnwythiennol yn y gobaith y bydd yn dod ato’i hun.

Heddiw cyhoeddodd y dyn busnes Gareth Morgan, sy’n bwriadu arwain taith i’r Antartig fis Chwefror nesaf, y byddai yn mynd a’r pengwin adref.

“Wrth gwrs nes bod hynny yn digwydd bydd rhaid i’r sw yn Wellington ofalu am y pengwin,” meddai.

Dyma’r tro cyntaf i bengwin gwyllt gael ei weld yn Seland Newydd – sydd 2,000 milltir o’r Antartig – ers 44 mlynedd.