William Hague
Bydd cymorth ariannol y Gorllewin i wledydd yng ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol yn ddibynnol arnyn nhw’n symud tuag at arddel democratiaeth, caniatau rhyddid barn ac ymdrechu i fyw’n ôl cyfreithiau.

Dyna ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague heddiw, wrth ddatgan bod Prydain am wario £110 miliwn dros y bedair mlynedd nesa’ i ddiwygio gwledydd fel yr Aifft a Thunisia.

Dywedodd y Tori bod Prydain a’i chynghreiriaid yn “fwy nag arsylwyr” yn y gwledydd hynny, a bod modd iddyn nhw “ddylanwadu” er mwyn newid y drefn yno.

Yn siarad ar raglan The World At One BBC Radio 4, dywedodd nad oedd modd i’r Gorllewin orfodi rheolwyr newydd y llefydd hyn i ufuddhau, nag “ail-greu Senedd San Steffan ym mhob un o’r gwledydd hyn”.

“Mae amodau ynghlwm wrth yr help a’r gefnogaeth rydan ni am roi iddyn nhw, ac hwyrach ein bod am ei alw yn rhywbeth mwy diplomatig nag amodau – atebolrwydd neu gytundeb ar y cyd ar sut y dylen nhw fynd yn eu blaenau, rhywbeth fel yna,” meddai William Hague.

“Fodd bynnag rydym am weld hawliau dynol sylfaenol yn cael eu parchu, yr hawl i amrywiaeth barn, gwir ddemocratiaeth, bod trefn gyfreithiol yn ei lle, bod yna farnwriaeth annibynnol mewn bodolaeth… ryda ni am weld y pethau hynny os ydan ni am gyfeirio swm mawr o arian draw at y gwledydd hynny.”