Danny Alexander
 Mae Llywodraeth Prydain eisiau i’r rhan fwya’ o’r sector gyhoeddus weithio nes eu bod yn 66 oed, sef yr oedran pan fydd pobol yn gymwys i dderbyn pensiwn y wladwriaeth.

Daeth y cyhoeddiad gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys wrth iddo rybuddio gweithwyr y byddai’n “gamgymeriad anferthol” i wrthod cynnig y Llywodraeth ar bensiynau, ac mai dyma’r cynnig gorau fyddai ger bron “am flynyddoedd i ddod”.

Gydag undebau yn bygwth streicio dros y mater, ac athrawon a gweision sifil eisoes wedi fotio i beidio gweithio ar Fehefin 30, mae Danny Alexander wedi annog aelodau cyffredin yr undebau i “siapio” y diwygiadau presennol neu wynebu newid “digyfaddawd” yn hwyrach lawr y lein.

 Ond mae ei sylwadau wedi cynddeiriogi arweinwyr undebol, sy’n cyhuddo’r Llywodraeth o fod wedi penderfynu ar y setliad pensiwn cyn cychwyn ei drafod gyda’r aelodau.

Mae disgwyl i Danny Alexander ddweud bod yn rhaid i’r oed ymddeol yn y sector gyhoeddus godi o 60 i 66 erbyn 2020 – gydag eithriadau ar gyfer rhai galwedigaethau fel diffoddwyr tân, heddweision a milwyr.

Mae gweithwyr y sector gyhoeddus yn wynebu gorfod talu mwy i’w pot pensiwn – 3.2% ar gyfartaledd – a gweithio’n hirach.

Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu fod angen newid y drefn, oherwydd bod pobl yn byw’n hirach a chan nad ydy’r mwyafrif o weithwyr y sector breifat yn mwynhau pensiynau sydd yr un mor hael.