Mae NFU Cymru wedi annog y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths i “wneud y peth iawn” a pharhau gyda’r ymgyrch i waredu TB.
Roedd Aelodau NFU Cymru wedi cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd ddoe i drafod materion amaethyddol ac economaidd.
Roedd dros draean o’r aelodau wedi cymryd y cyfle i gyfarfod gyda chynrychiolwyr NFU Cymru i drafod materion lleol a rhai sy’n effeithio ar ffermio o bob cwr o Gymru.
Mae Is-lywydd NFU Cymru, Stephen James, wedi dweud eu bod nhw’n edrych ar Lywodraeth newydd y Cynulliad i barhau gyda’u hymroddiad i gael gwared â’r afiechyd.
“Roedd mwyafrif o aelodau’r Cynulliad olaf wedi gwrthod pwysau allanol ac aros yn driw i’r ymrwymiad gwreiddiol o strategaeth rheoli holistig a oedd yn cynnwys difa moch daear,” meddai Stephen James.
“Rwy’n gobeithio pan fydd y Gweinidog Amgylchedd yn gwneud ei ddatganiad dydd Mawrth nesaf, y bydd yn cydnabod yr angen i barhau gyda’r cynlluniau.”
“Rwy’n gobeithio na fydd yr ymdrechion yn ofer wrth ystyried yr holl heriau mae ffermwyr gwartheg wedi wynebu i geisio taclo’r afiechyd, gan gynnwys mwy o brofion, rheoli symudiadau gwartheg a mesurau i leihau cyffyrddiadau rhwng gwartheg a bywyd gwyllt “
“Heb strategaeth gydamserol i ddelio gyda’r afiechydon sydd gan foch daear, bydd yr holl waith caled wedi mynd yn ofer.”