Map o wlad Belg yn dangos rhaniadau ieithyddol y wlad - yr ardal Fflemeg mewn oren yn y gogledd, yr ardal Ffrangeg mewn coch yn y de, a'r brifddinas ddwyieithog Brwsel yn y canol (o wefan wikipedia)
Flwyddyn union ers etholiad cyffredinol y wlad, mae pleidiau gwlad Belg yn dal i fethu dod i gytundeb ynghylch ffurfio llywodraeth.

Dyma’r cyfnod hiraf erioed i unrhyw wlad ddemocrataidd fethu â ffurfio llywodraeth ar ôl etholiad.

Y prif reswm dros hyn yw diffyg tir cyffredin rhwng y ddwy blaid a ddaeth i’r brig yn yr etholiad ar 13 Mehefin y llynedd.

Plaid sy’n ffafrio annibyniaeth i Fflandrys, sef rhan ogleddol y wlad sy’n Fflemeg ei iaith, yw’r blaid fwyaf. Y blaid gryfaf yn y de Ffrangeg ei hiaith fodd bynnag yw plaid sosialaidd sy’n deyrngar i undod gwladwriaeth Belg.

Ac mae’n ymddangos mai chwerwi mae’r berthynas rhwng y ddwy blaid ar ôl blwyddyn o ddadlau a ffraeo ac weithiau gyfnodau o dawelwch llwyr.

Llywodraeth dros dro

Yn y cyfamser, mae llywodraeth dros dro’n rhedeg y wlad o ddydd i ddydd.

Ym marn sylwebwyr gwleidyddol, dyw’r diffyg llywodraeth ddim wedi gwneud fawr o wahaniaeth i fywyd bod dydd yn y wlad, gan fod llawer o swyddogaethau’r wladwriaeth yn cael eu cyflawni gan lywodraethau rhanbarthol y wlad.

Fe ddaliodd y wlad arlywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ail hanner 2010, a llwyddodd y llywodraeth dros dro i gytuno ar gyllideb dynnach ddechrau’r flwyddyn. Mae cyfraddau twf economaidd yn uwch, a diweithdra’n is, na chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd.

“Ar y cyfan, mae popeth yn dal i weithio. Rydym yn cael ein talu, mae bysiau’n rhedeg ac mae ysgolion yn agored,” meddai Marc De Vos, athro ym Mhrifysgol Ghent a chyfarwyddwr sefydliad polisi ym Mrwsel.

“Eto i gyd, mae’n anodd gweld sut y gellir datrys yr argyfwng yn yr hirdymor, gan fod gwlad Belg yn glytwaith o siaradwyr Iseldireg a Ffrangeg heb deimlad o undod cenedlaethol i dynnu pobl at ei gilydd.

“Yn sgil yr Undeb Ewropeaidd a globaleiddio, mae perthnasedd y syniad o wladwriaeth genedlaethol gydlynol wedi lleihau.”