Cyrnol Muammar Gaddafi (James Gordon CCA 2.0)
Dywed yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod cyfundrefn Muammar Gaddafi yn Libya yn ‘gwanhau fwyfwy’ yn sgil cyrch milwrol Nato.

Ond dywedodd ei bod hi’n “amhosibl dweud” pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ddisodli’r unben.

Dywedodd hefyd y byddai’n well ganddo weld Gaddafi yn cael ei gyhuddo o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth, yn hytrach na chael ei ladd mewn ymosodiad o’r awyr, neu ei alltudio.

“Mae amser ar ein hochr ni, nid ar ei ochr ef,” meddai William Hague mewn cyfweliad teledu heddiw. “Mae sefyllfa cyfundrefn Gaddafi yn gwanhau fwyfwy ar ôl colli brwydrau pwysig.

“Rhaid inni gael yr amynedd a’r dyfal barhad i sicrhau llwyddiant a chofio bod y pwysau amser ar yr ochr arall, ar gyfundrefn Gaddafi.

“Fe fyddwn ni’n gwireddu penderfyniad y Cenhedloedd Unedig.”

Llys rhyngwladol

Pan ofynnwyd i’r Ysgrifennydd Cartref a fyddai’n well ganddo weld Gaddafi yn cael ei ladd, neu’n cael ei orfodi i ildio neu fynd i alltudiaeth, atebodd William Hague:

“Yn amlwg fe hoffen ni ei weld yn ateb cyhuddiadau o flaen y llys troseddau rhyngwladol, felly petawn i’n gorfod dewis, dyna’r hoffwn i ei weld.

“Ond petai’n ffoi i rywle allan o gyrraedd y llys troseddau rhyngwladol fydden ni ddim o anghenraid yn gallu rhwystro hynny.”