Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae o leiaf 36 o bobl wedi cael eu lladd mewn cyrch mawr gan llywodraeth Syria yng ngogledd y wlad.

Fe fu’r lluoedd elît yr arlywydd Bashar Assad yn tanio o danciau ar drefi gwrthryfelgar, yn rhoi tir amaethyddol ar dân ac yn saethu protestwyr a oedd yn ceisio dinistrio poster o’r arlywydd.

Gyda dros 4,000 o Syriaid wedi ffoi dros y ffin i Dwrci, mae prif weinidog y wlad honno wedi cyhuddo cyfundrefn Assad o fod yn farbaraidd.

Y gred yw mai uned elît o’r fyddin o dan reolaeth Maher Assad, brawd ieuengaf yr arlywydd, oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r trais ddoe.

Bygythiad

Fe all y penderfyniad i ddefnyddio’r uned hon fod yn arwydd o bryder ynghylch teyrngarwch milwyr rheolaidd y wlad, wrth i gyfundrefn y teulu Assad wynebu’r bygythiad gwaethaf yn y 40 mlynedd y mae wedi bod mewn grym.

Dywed Syriaid a oedd wedi ffoi i Dwrci fod milwyr wedi gwrthod gorchmynion i danio ar brotestwyr yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl rhagor o wrthdaro heddiw wrth i danciau Syria ymgasglu o gwmpas tref Jisr al-Shughour ar y ffin â Thwrci, lle dywed teledu Syria fod y fyddin wedi arestio amryw o arweinwyr grwpiau arfog yn y dref.