Gorsaf Fukushima Dai-ichi ar ôl y difrod (AP Photo/DigitalGlobe)
Mae protestiadau torfol yn erbyn ynni niwclear wedi cael eu cynnal yn Tokyo heddiw, dri mis wedi’r trychineb niwclear yn sgil y daeargryn a’r tsunami ar Fawrth 11.

Roedd y tsunami anferthol, a laddodd tua 23,000 o bobl, wedi dinistrio systemau oeri atomfa Fukushima Dai-ichi tua 140 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Tokyo, gan achosi ffrwydron, tanau a gollyngiadau ymbelydrol.

Mae adroddiadau swyddogol a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos yma’n cadarnahau bod y difrod a’r ymbelydredd yn waeth na’r hyn a dybiwyd. Roedd yr ymbelydredd a gafodd ei ollwng i’r awyr tua chweched rhan yr hyn a gafodd ei achosi gan drychineb Chernobyl yn 1986.

Mae cannoedd o weithwyr yn dal i ymdrechu i gau adweithyddion Fukushima erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf. Roedd dros 80,000 o drigolion wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi ar gyrion yr atomfa.

Dadlau tanbaid

Mae’r trychineb wedi arwain at ddadlau tanbaid ynghylch y defnydd o ynni niwclear yn y wlad.

Fe fua tua 2,000 o bobl yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Tokyo mewn rhesi trefnus yn taro drymiau a gweiddi sloganau gwrth-niwclear wrth fynd heibio adeilad gweinyddiaeth economaidd y llywodraeth a phrif swyddfeydd Cwmni Trydan Tokyo, sy’n gweithredu atomfa Fukushima.

Er bod llawer o bobl yn y protestiadau yn Tokyo yn dod o fudiadau mawr sydd wedi cefnogi achosion fel deddfwriaeth yn erbyn rhyfel a hawliau merched, roedd amryw wedi dod fel grwpiau bychain a theuluoedd yn ogystal.

“Ers y daeargryn, dw i wedi sylweddoli bod ynni niwclear yn rhy beryglus i’w ddefnyddio,” meddai Takeshi Terada, gweithiwr llongau 32 oed, a ddaeth gyda 10 o ffrindiau i orymdeithio yn y brotest.