Tsimpansi
 Mae meddygon wedi trawsblannu wyneb newydd ar ddynes yn America, a gafodd ei anharddu ddwy flynedd yn ôl gan tsimpansi anwes ei chyfaill.

 Dywedodd swyddogion ysbyty merched yn Boston eu bod wedi rhoi’r wyneb i Charla Nash ar gynffon mis Mai.

 Mi roddodd tîm o lawfeddygon, dan arweiniad Dr Bohdan Pomahac, ddwy law newydd i Nash hefyd, ond mi fethodd y dwylo i ddygymod a bu’n rhaid ei tynnu.

 Dyma’r trydydd trawsblaniad wyneb yn yr ysbyty yn Boston eleni. Nid yw enw rhoddwr yr wyneb wedi ei ddatgelu.

 Tsimpansi’n gwallgofi

 Aeth y tsimpansi o’r enw Travis yn wallgof yn Chwefror 2009, ar ôl i’w berchennog ofyn i Nash ei helpu i gael yr anifail yn ôl i’r tŷ.

 Mi rwygodd ddwylo, trwyn, gwefusau ac amrannau Nash i ffwrdd, cyn i’r heddlu ei ladd.