Mae Awdurdod Addysg Cyngor Môn wedi ei alw i mewn i’r ffrae dros ddyfodol pennaeth ysgol gynradd ym Menllech.
Ar hyn o bryd mae pump allan o’r chwech athro yn Ysgol Goronwy Owen wedi bod i ffwrdd o’u gwaith yn sâl, ar ôl cwyno’n swyddogol am y pennaeth Ann Hughes.
Yn ôl eu hundeb UCAC dylid diswyddo’r pennaeth, er nad yw union natur y cwynion yn ei herbyn wedi dod yn gyhoeddus.
Cadarnhaodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Goronwy Owen ym Menllech fod y mater nawr wedi ei roi yn nwylo’r Awdurdod Addysg, mewn datganiad amser cinio.
Daw hyn wedi dwy flynedd o drafferthion rhwng staff a phennaeth yr ysgol, a ddaeth i ben ym mis Mai eleni pan gafwyd datganiad gan aelodau undeb UCAC yr ysgol yn dweud nad oedd ganddyn nhw hyder yn eu pennaeth.
Mae undeb athrawon UCAC hefyd wedi dweud nad ydyn nhw’n dymuno gweld y pennaeth presennol, Ann Hughes, yn parhau yn ei swydd.
Athrawon i ffwrdd yn sâl…
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ieuan Williams, yn ei ddatganiad fod yr ysgol yn mynd i barhau i weithredu “mor normal â phosib” – er gwaetha’r ffaith fod pump allan o chwech o athrawon yr ysgol bellach i ffwrdd o’r gwaith yn sâl.
“Mae ganddon ni gymorth athrawon cyflenwi profiadol, sydd yn gyfarwydd i’r plant, ac sydd wedi gweithio yn yr ysgol yn y gorffennol,” meddai Ieuan Williams.
“Mae gweithgareddau all-gyrsiol wedi cael eu trefnu ac mae popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod addysg a lles y plant yn cael blaenoriaeth.”
Yn ôl Ieuan Williams, mae’r corff llywodraethol a’r pennaeth yn cyd-weithio “yn llawn” gyda swyddogion y cyngor ar hyn o bryd.
“Rydw i’n dal i obeithio y gall y mater cael ei ddatrys mewn modd cyfeillgar.”