Mae glaw trwm wedi disgyn ar draws de Haiti am y seithfed diwrnod yn olynol, gan arwain at lifogydd trwm.

Cyrhaeddodd y llifogydd y brifddinas Port-au-Prince gan sgubo drwy rhai o’r tai dros dro a godwyd ar ôl y daeargryn yn 2010.

Mae o leiaf 23 wedi marw a chwech arall ar goll, meddai’r awdurdodau.

Bu’n rhaid i nifer o drigolion y wlad ddringo ar doeau eu tai wrth i afonydd orlifo a boddi’r tir. Mae’r storm hefyd wedi dymchwel coed a chau strydoedd ledled y brifddinas.

Dywedodd Edgar Joseph, llefarydd ar ran Adran Amddiffyn y Cyhoedd Haiti, fod y difrod gwaethaf yn y brifddinas.

Ond fe fu farw 13 yn Petionville, tref ar ochor bryn i’r de-ddwyrain o Port-au-Prince. Roedd tŷ concrid wedi llithro i lawr y bryn a glanio ar ben sawl cartref  arall, meddai.

Dywedodd dyn 53 oed, Jean Wildor Charutis, fod ei chwaer a’i wyres wedi marw yn y trychineb.

“Roedd gymaint o law roedd y tŷ yn ysgwyd,” meddai wrth iddo ef a’r gwasanaethau brys chwilio am oroeswyr ymysg y rwbel.

Mae’r glaw trwm hefyd wedi achosi llifogydd yn Jamaica, Puerto Rico, a Gweriniaeth Dominica.

Fe fu farw bachgen 13 oed yng Ngweriniaeth Dominica ar ôl cael ei gipio gan afon oedd wedi gorlifo ger Santo Domingo.