Carwyn Jones

Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn cwrdd gyda Phrif Weinidog Prydain heddiw am y tro cynta’ ers Etholiadau’r Cynulliad, a’r disgwyl yw y bydd y drefn o roi arian i Gymru yn agos at frig yr agenda.

Fe fydd Carwyn Jones yn cwrdd gyda David Cameron yng nghwmni prif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, gyda’r tair gwlad yn gofyn am bethau gwahanol.

Alex Salmond o’r Alban fydd y llais cryfa’ ar ôl ennill buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiadau ym mis Mai – mae’n galw ar i Holyrood gael yr hawl i reoli treth gorfforaeth yr Alban ac Ystadau’r Goron ac am yr hawl i fenthyg arian.

Trafod Barnett

Ac mae’n debyg o wrthwynebu un o brif ofynion Carwyn Jones – i newid Fformiwla Barnett sy’n dosbarthu arian rhwng y gwledydd. Fe fyddai newid honno’n golygu colli arian i’r Alban.

Mae Carwyn Jones ei hun wedi mynegi amheuon am gael hawliau trethu i Gymru ac eisiau newid yn y Fformiwla cyn hynny. Yn ôl Comisiwn Holtham, fe fyddai Cymru’n derbyn tua £300 miliwn y flwyddyn yn rhagor, pe bai’r Fformiwla wedi ei seilio ar angen, yn hytrach na phoblogaeth.

Ond mae’r gwledydd datganoledig yn debyg o fod yn fwy cytûn yn eu hagwedd at yr economi – yn ôl llefarwyr o’r Alban, fe fydd Alex Salmond yn galw ar i’r Llywodraeth yn Llundain feddwl am gynllun arall i ddod allan o’r dirwasgiad.