Lawrence S Eagleburger
Bu farw’r gwleidydd Lawrence S Eagleburger – yr unig swyddog swyddfa dramor yn yr Unol Daleithiau i gael ei ddyrchafu’n Weinidog Gwladol.

Daeth newydd am farwolaeth y gwr 80 oed o du cynrychiolwyr y cyn-Arlywydd George H W Bush (y tad) a’r cyn-Weinidog Gwladol James Baker heddiw.

Does dim manylion pellach wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn.

Roedd Eagleburger yn cael ei ystyried yn ddiplomydd di-flewyn ar dafod, un a oedd yn ymddangos yn ddigon afieithus a brwd, a’r steil honno’n aml iawn yn cuddio ei waith caled yn ceisio dod i ddealltwriaeth a chytundeb ynglyn â phroblemau polisi tramor.

Dim ond am bum mis y bu Lawrence S Eagleburger yn y swydd bwysig – ond roedd hynny ar adeg tyngedfennol yng ngyrfa George Bush (y tad). Fe ddaeth i lenwi esgidiau James Baker, a ymddiswyddodd yn 1992 er mwyn trio helpu Bush i ennill ail dymor yn y Ty Gwyn.