Heddlu wedi dechrau ymchwilio i lofruddiaeth Paul Cox
Mae detectifs yng nghanolbarth Lloegr wedi agor ymchwiliad llofruddiaeth, wedi i gorff dyn oedrannus gael ei ddarganfod yn ei gartref.

Mae Heddlu Gorllewin Mersia wedi cadarnhau eu bod nhw’n awyddus i ddatrys achos marwolaeth Paul Cox, 83 mlwydd oed, a oedd yn byw ar ei ben ei hun yn Rednal ger Birmingham. Maen nhw wedi mynd cyn belled â dweud iddo farw o ganlyniad i ymosodiad arno.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw’n credu bod car Ford Focus Mr Cox wedi ei ddwyn o du blaen ei dy yn Waseley Road rhwng 7.30yh ddydd Iau diwetha’ a 8 o’r gloch fore Gwener  (Mehefin 3).

Mewn datganiad, meddai’r Prif Arolygydd Amanda Blakeman:

“Rydan ni’n gwybod fod rhywun wedi ymosod ar Mr Cox, a’i fod o wedi marw o ganlyniad i’r ymosodiad. Rydan ni wedi agor ymchwiliad llofruddiaeth, ac rydan ni’n apelio am unrhyw wybodaeth, ar frys.”