Muammar al-Gaddafi
Mae gweinidog olew llywodraeth Muammar Gaddafi yn Libya wedi troi cefn arno a bellach yn cefnogi’r gwrthryfelwyr, cyhoeddodd heddiw.
Dywedodd Shukri Ghanem ei fod wedi gadael y llywodraeth pythefnos yn ôl ac wedi cyrraedd Rhufain ddoe.
“Yn y fath sefyllfa mae’n amhosib parhau â’r gwaith felly rydw i wedi gadael fy ngwlad ac yn cefnogi pobol ifanc Libya sydd eisiau gwlad ddemocrataidd,” meddai.
Roedd llywodraeth Libya wedi mynnu yn gynharach fod Shukri Ghanem ar daith busnes y tu allan i’r wlad ac nad oedd wedi ffoi.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Weinyddiaeth Dramor y byddai yn cynrychioli llywodraeth Gaddafi yng nghyfarfod Opec yn Wien ar 8 Mehefin.
Daw ei benderfyniad wrth i luoedd arfog Nato benderfynu parhau â’u hymgyrch yn Libya am 90 diwrnod arall.
Dywedodd Weinyddiaeth Dramor yr Eidal nad oedd ganddyn nhw sylw ar y mater.
Daw penderfyniad Shukri Ghanem dyddiau yn unig ar ôl i wyth o uwch swyddogion byddin Libya gan gynnwys pum cadfridog, droi cefn ar Muammar Gaddafi a ffoi i Rufain.