Mae cwmni Qantas wedi gorfod atal un o’u hawyrennau rhag hedfan ar ôl dod o hyd i lygod mawr mewn cist oedd yn dal offer meddygol, meddai llefarydd.
Daethpwyd o hyd i’r llygod mawr mewn cist oedd yn dal diffibriliwr.
Doedd teithwyr heb ddechrau cyrraedd yr awyren o Sydney i Brisbane ac fe drefnwyd awyren arall ar eu cyfer.
Mae’r criw bellach wedi cynnal archwiliad arall ac wedi dweud nad oes yna ragor o lygod mawr ar yr awyren.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Qantas fod beth ddigwyddodd yn “anghyffredin iawn”.
Ond dywedodd Scott Connolly o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth fod gan aelodau bryderon am lendid ar awyrennau Qantas.
Mae’r cwmni awyrennau wedi wynebu cyfres o broblemau dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys injan yn ffrwydro ar un awyren.
Ddechrau’r wythnos bu’n rhaid i awyren oedd yn teithio o Dallas, Texas i Awstralia lanio ar ynys yn y Môr Tawel.
Roedd y peilotiaid yn pryderu nad oedd digon o danwydd ar yr awyren i gyrraedd pen y daith, oherwydd gwyntoedd cryfion.