George Bush
Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George Bush, wedi dweud ei fod yn fodlon ei fyd pan glywodd fod milwyr yr Unol Daleithiau wedi lladd Osama bin Laden.

Ychwanegodd fod Barack Obama wedi gwneud argraff fawr arno drwy roi sêl bendith i’;r cynllun mentrus i ladd Osama bin Laden o fewn Pacistan.

Roedd George Bush yn siarad o flaen 2,500 o bobol yng nghinio blynyddol Siambr Masnach Lancaster, Pennsylvania.

Dywedodd mai’r pen anoddaf am fod yn arlywydd oedd “yr angen i wneud llawer iawn o benderfyniadau anodd heb unrhyw rybudd o gwbl”.

“Roedd yr Arlywydd wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd iawn,” meddai. “Ac yn y pen draw dyna oedd y penderfyniad cywir.”

Ychwanegodd mai dim ond amser fyddai yn dangos a oedd wedi gwneud y penderfyniadau cywir yn ystod ei gyfnod yn y Tŷ Gwyn.

Mae George Bush wedi cadw allan o lygaid y cyhoedd ers i’w gyfnod yn arlywydd ddod i ben ym mis Ionawr 2008.

Mae wedi dychwelyd i’w gartref yn nhalaith Texas er mwyn gweithio ar ei hunangofiant.