Golygfa yn Istanbwl (Constantinopolitan (Trwydded GNU)
Mae saith o bobol wedi eu hanafu wedi ffrwydrad yn Istabwl yn Nhwrci y bore ’ma, ar ôl i fom gael ei osod ar gefn beic trydan.

Mae’r heddlu yno’n credu mai bom “o faint canolig” sydd wedi achosi’r ffrwydrad, a ddigwyddodd ger gorsaf fysiau a chanolfan siopa brysur yn ninas fwya’ Twrci.

Daw hyn ychydig dros bythefnos cyn etholiadau seneddol Twrci ar 12 Mehefin – yr etholiad cyntaf ers i’r blaid Gwrdaidd gael ei gwahardd rhag sefyll oherwydd cysylltiadau honedig â therfysgaeth.

Anafu saith

Cafodd sawl ambiwlans eu galw i’r digwyddiad i drin y rhai a gafodd eu hanafu, sy’n cynnwys plismon a oedd yn yr ardal ar y pryd.

Mae Llywodraethwr Istanbul, Huseyin Avni Mutlu, bellach yn dweud nad oes neb wedi eu hanafu’n ddifrifol.

Yn ôl gwasanaeth newyddion CNN Twrci, digwyddodd y ffrwydrad wrth i’r beic trydan basio’r gorsaf fysiau, a heb fod ym mhell o ysgol hyfforddi heddlu’r brifddinas.

Mae’r heddlu bellach wedi cau’r ardal, wedi pryderon y gallai ail fom gael ei ffrwydro, ac mae arbenigwyr bomiau wedi cael eu galw yno.

Beio’r Cwrdiaid

Does neb wedi cymryd cyfrifoldeb am y ffrwydrad mor belled, ond mae llawer yn amau’r gwrthryfelwyr Cwrdaidd sy’n brwydro am annibyniaeth yn ne-ddwyrain Twrci.

Mae’r blaid, sydd wedi ei gwahardd o wleidyddiaeth Twrci, wedi ffrwydro bomiau yn Istanbul yn y gorffennol, ac mae eu harweinydd, sydd dan glo, wedi addo mwy o drais os nad yw eu galwadau am drafodaethau’n cael eu hateb wedi etholiadau 12 Mehefin.

Mae ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd ac asgell chwith hefyd wedi bod yn Nhwrci’n ddiweddar.