Y llosgfynydd
Mae disgwyl y bydd teithiau awyr yn ôl i’r arfer heddiw, wedi i’r asiantaeth reoli traffig awyr yn Ewrop benderfynu nad yw’r cwmwl llwch bellach yn broblem i awyrennau.
Mae Maes Awyr Caerdydd eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n disgwyl y bydd unrhyw effaith ar deithiau oddi yno heddiw.
Dywedodd asiantaeth Eurocontrol na fyddai’r llwch o’r llosgfynydd yn cyrraedd lefel a allai beri problem i deithiau awyr yn ystod y 24 awr nesaf.
Yn ôl Eurocontrol, mae lefelau’r gweithgaredd folcanig o losgfynydd Grimsvotn yng Ngwlad yr Ia wedi lleihau’n aruthrol, ac fe ddliai teithio awyr yn Ewrop bellach fod yn ddiogel.
Gwasgaru
Yn gynharach yr wythnos hon, gorfodwyd rhai meysydd awyr i gau, a gohiriwyd cannoedd o deithiau awyr yng ngwledydd Prydain, yr Almaen, ac mewn ardaloedd eraill ar draws gogledd-orllewin Ewrop.
Roedd disgwyl i beth o’r llwch oedi dros rannau o ogledd Scandinafia a gogledd Rwsia yn gynnar heddiw, ond fe ddylai fod wedi gwasgaru erbyn hyn.