Barack Obama
Mae disgwyl y bydd yr Unol Daleithiau a Gwledydd Prydain yn galw am roi rhagor o gefnogaeth i wledydd i wledydd Arabaidd sy’n troi at ddemocratiaeth.

Y gred yw y bydd yr Arlywydd Barack Obama a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, yn gwneud eu hawgrym yng nghynhadledd gwledydd cyfoethog y G8 sy’n dechrau heddiw.

Un syniad yw fod benthyciadau i wledydd fel yr Aifft, sydd newydd gael gwared ar unben, yn cael eu troi’n fuddsoddiadau.

Problemau hefyd

Ond fe allai’r gwledydd Arabaidd greu problemau i’r wyth hefyd, gyda Rwsia’n pryderu bod ymosodiadau gwledydd NATO ar Libya’n mynd yn rhy bell.

Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu cymryd camre’n erbyn Syria, lle mae cannoedd o brotestwyr heddychlon wedi’u lladd.

Fe fydd yr wyth gwlad – Yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Almaen, Canada, yr Eidal, Japan a Rwsia – hefyd yn clywed gan brif weinidogion newydd yr Aifft a Twnisia.