Dominique Strauss-Kahn
Mae profion DNA ar gyn-bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Dominique Strauss-Kahn, wedi cyfateb â phrofion DNA ar grys y forwyn y mae wedi ei gyhuddo o’i threisio, yn ôl ffynonellau o fewn yr ymchwiliad.

Mae’r cyn-ymgeisydd arlywyddol wedi ei gyhuddo o ymosod ar y forwyn 32 oed yn ei ystafell £1,850 y noson yn y Sofitel Hotel.

Dywedodd y fewnfudwraig Affricanaidd wrth yr heddlu ei fod wedi ei gorfodi i berfformio gweithred rywiol arno, a’i fod wedi ceisio tynnu ei theits.

Mae disgwyl i’r gwleidydd 62 oed, sy’n wynebu cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ac ymgais i dreisio, ymddangos yn y llys ar 6 Mehefin. Mae e’n gwadu’r cyhuddiadau.

Gwrthododd ei gyfreithiwr, Benjamin Brafman, â rhoi sylw ar y mater neithiwr ar ôl i ganlyniadau’r profion ddod i’r amlwg.

Amau gwerth y profion

Mewn gwrandawiad llys yr wythnos diwethaf, dywedodd cyfreithiwr Strauss-Kahn wrth y barnwr na fyddai tystiolaeth fforensig yn “cyd-fynd â gweithred orfodol” – gan awgrymu y bydd Strauss-Kahn yn dadlau fod y ddau wedi cytuno i’r weithred rywiol.

Mae rhai o staff y gwesty hefyd wedi dweud wrth yr awdurdodau fod Strauss-Kahn wedi fflyrtio gyda nhw, gan gynnwys ffonio un aelod o staff a gofyn iddi ddod i fyny i’w ystafell.

Mae’n debyg bod Strauss-Kahn wedi fflyrtio ag un aelod o staff a aeth gydag ef i’w ystafell i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn wedi iddo gyrraedd ar ddydd Gwener 13 Mai.

Yn ddiweddarach, fe ffoniodd y weinyddes a’i groesawodd i’r gwesty, gan holi a fyddai hi’n hoffi dod i fyny ato wedi iddi orffen ei shifft.

Gwrthododd y weinyddes gan ddweud nad oedd hawl ganddi gymdeithasu â gwesteion.

Ddoe, roedd cyfreithwyr Strauss-Kahn yn dal i chwilio am lety newydd i gyn-bennaeth yr IMF, a dreuliodd y penwythnos dan glo yn ei fflat.

Mae’n aros dros dro gyda’i wraig Anne Sinclair, sydd wedi ochri â’i gŵr ers iddo gael ei arestio, mewn fflat moethus yn Manhattan.

Mae cyfryngau Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi bod yn gwylio’r adeilad ers dydd Gwener, pan symudwyd Dominique Strauss-Kahn yno o garchar Rikers Island.