Mahmoud Ahmadinejad
Mae ffrwydrad wedi siglo un o burfeydd olew mwyaf Iran heddiw, ychydig oriau cyn i’r arlywydd Mahmoud Ahmadinejad ymweld â’r safle.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Fars, digwyddodd y ffrwydrad y bore ma, cyn i’r arlywydd gyrraedd.
Roedd disgwyl i’r arlywydd Ahmadinejad ymweld â’r safle i roi ei sêl bendith ar gynllun i ehangu’r burfa yn ne-orllewin dinas Abadan.
Dywedodd yr adroddiad papur newydd fod o leiaf ugain o bobol wedi eu niweidio yn y ffrwydrad.
Mae swyddogion wedi dweud mai nwyon yn gollwng oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.
Oriau yn ddiweddarach, darlledwyd anerchiad byw gan yr arlywydd Ahmadinejad y tu allan i’r burfa olew.