Osama bin Laden - y cyrch yn ddial am ei ladd
Mae gwrthryfelwyr wedi ymosod ar un o ganolfannau’r llynges ym Mhacistan gan ladd ac anafu swyddogion milwrol ger Karachi a dinistrio dwy o awyrennau’r Unol Daleithiau.
Mae o leia’ saith o bobol wedi’u lladd ac 14 wedi’u hanafu yn yr ymladd yng Nghanolfan Mehran, meddai llefarydd.
Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod y gwrthryfelwyr wedi cael eu hamgylchynu yn y ganolfan lle mae fflamau a mwg wedi’u gweld.
Mae’r Taliban ym Mhacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad gan ddweud ei fod yn rhan o’u dial ar yr Unol Daleithiau am y cyrch a laddodd Osama bin Laden.
Tanio ffrwydron
Yn ôl y llefarydd, roedd rhwng 10-15 o bobol wedi mynd i mewn i’r ganolfan cyn rhannu’n grwpiau llai a tanio ffrwydron.
Mae’r ffaith bod gwrthryfelwyr wedi mynd i mewn i un o ganolfannau milwrol mwya’r wlad yn ergyd bellach i luoedd arfog Pacistan yn codi amheuon bod gan yr ymosodwyr wybodaeth fewnol.